
Brawd a dwy chwaer - Elan, Marged a Gwilym Rhys o adral Caernarfon yng Ngogledd Cymru yw'r grwp Plu, a ffurfiodd yn Haf 2012. Mae sain Plu yn fand werin-bop amgen ac mae harmoni agos 3 rhan yn asgwrn cefn cyson i'w set amrywiol.
Yn 2014 roedd Plu yn ran o Horizons/Gorwelion, cynllun a redir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Fel rhan o'r cynllun hwn cawsant gyfle i chwarae mewn gwyliau megis Gwyl y Gelli a Gwyl Rhif 6, a recordio sesiwn byw yn stiwdio BBC Maida Vale. Cafodd y band hefyd y cyfle i gynrychioli Cymru yn Folk Alliance International, Kansas City fis Chwefror 2016. Maent wedi cael y cyfle i berfformio mewn rhai o wyliau cerddorol mwyaf prydain yn cynnwys Glatonbury a Gwyl y Dyn Gwyrdd.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf ar label Sbrigyn Ymborth ym mis Gorffenaf 2013 a gafodd ei gynhyrchu gan Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog. Creodd Plu albwm o ganeuon i blant o'r enw 'Holl Anifeiliaid Y Goedwig' ar label Sain Cyf a gafodd ei ryddhau fis Rhagfyr, 2014. Cafodd eu trydydd albwm, o'r enw 'Tir a Golau' ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth fis Tachwedd 2015 gan dderbyn adolygiadau da iawn. Cafodd y tri albwm eu henwebu ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn am dair blynedd yn olynol gyda'r diweddaraf ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2016. Fis Mawrth 2017 cafodd Plu y pleser i berfformio yn Y Wladfa, Patagonia fel rhan o ŵyl Patagonia Celtica.
Mae Plu hefyd wedi cydweithio gyda Carwyn Ellis o'r band Colorama i greu prosiect 'Bendith'. Cafodd sengl y prosiect, 'Danybanc', ei ryddhau fis Mai, 2016 gyda'r albwm 'Bendith' yn ei ddilyn fis Hydref, 2016 gyda thaith. Cafodd EP Bendith ei ryddhau ar label Aficionado Records fis Chwefror 2017. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar www.bendith.cymru
Formed of sibling trio - Elan, Marged and Gwilym Rhys from Snowdonia, North Wales in the Summer of 2012, Plu (meaning 'feathers' in Welsh) play alternative Welsh language pop-folk, with close 3 part harmonies a back-bone to their varied set.
In 2014 Plu were part of Horizons/Gorwelion, a scheme delivered by BBC Cymru Wales in partnership with Arts Council Wales to develop new, independent contemporary music in Wales. As part of this project they played in festivals such as Hay Literary Festival and Festival No.6 as well as recording a live session at BBC studios Maida Vale. The band also represented Wales at Folk Alliance International, Kansas City in February 2016. They have also played some of Britain's largest music festivals including Glastonbury and Green Man. In March 2017 Plu enjoyed touring the Chubut Province in Argentina as part of the Patagonia Celtica festival.
Plu released their debut album 'Plu' on the label Sbrigyn Ymborth in July 2013 which was produced by Aled Hughes from Cowbois Rhos Botwnnog. The trio created an album for children, titled 'Holl Anifeiliaid Y Goedwig', on the Sain Cyf label, released in December 2014. Their third album 'Tir a Golau' was released on the Sbrigyn Ymborth label in November 2015 receiving great reviews. All three albums were nominated for the Welsh Language Album of the Year for three years consecutively. Tir a Golau was also shortlisted for the 2016 Welsh Music Prize.
The band have also collaborated with Carwyn Ells from Colorama to create a project called 'Bendith' (blessing). Their single, 'Danybanc' was released in May, 2016 with the album 'Bendith' released in October followed by a tour. Bendith also released an EP on Aficionado Records in February 2017. More information on 'Bendith' can be found on www.bendith.cymru